Cynllunio’r Daith
Mae’r llwybr oddeutu 135 milltir /218 km o hyd. “Milltiroedd ar fap” ydy’r rhain a dydyn nhw ddim yn ystyried y ffaith eich bod yn cerdded i fyny ac i lawr elltydd. Mae’r llwybr wedi ei rannu’n 25 prif ddarn sy’n weddol fyr. I weld y manylion, edrychwch ar dudalen Y Llwybr. Gyda’r wybodaeth yma, dylech allu cynllunio taith gerdded o 10 i 15 diwrnod. Suggested Itenerary cliciwch yma (saesneg yn unig)
Gwarbacio
Fel arfer nid oes caniatâd i chi wersylla’n wyllt yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’r cyfleusterau ar gyfer gwersylla ar hyd y llwybr yn gyfyngedig.
Walking the Route (Saesneg yn unig)
Because of the wet summer there seems to be more tics than usual, so can we suggest that whilst walking the route, especially where there is a lot of bracken, that long trousers may be the favoured option.
Plus maybe have some secateurs handy for some of the dense undergrowth you may encounter, especially brambles.
Teithio’n Ysgafn
Mae nifer rhesymol dda o fusnesau Gwely a Brecwast, Tai Llety, Gwestyau a Hostelau ar hyd y llwybr. Dylai unigolion a grwpiau bychain allu dod o hyd i lety addas naill ai ar y llwybr neu yn rhywle cyfagos. Bydd darparwyr fel arfer yn dod i’ch nôl o’r llwybr am ffi, ac yn eich cymryd yn ôl yno’r bore wedyn. Yr unig fwyd y mae angen i chi ei gario yw cinio pecyn a diod.
Dylech sicrhau:
Defnyddiau ymolchi
Y “rheol aur” yw cario dim ond y lleiafswm angenrheidiol, bar bychan o sebon mewn cynhwysydd plastig, brwsh dannedd a phâst dannedd, rasel, diaroglydd, hancesi papur ac ati. Yn yr haf byddwch angen hufen haul cryf a hylif ymlid pryfed.
Cit Cymorth Cyntaf
Dylech bob amser gario cit cymorth cyntaf bychan mewn bag gwrth-ddŵr. Dylai hwn gynnwys y pethau nesaf yma ac unrhyw beth arall yr ydych ei angen: tabledi lladd poen megis parasetamol ac ibuprofen; plasteri ar gyfer toriadau a chrafiadau bach; detholiad bach o orchuddion di-haint ar gyfer anafiadau; clytiau antiseptig, plyciwr a siswrn.
Pasbort y Pererin
Gallwch gael pasbort i gofio eich taith gerdded. Mae’r manylion ar dudalen wahanol.
Cofnod y Pererin
Cofnodwch dystiolaeth o’ch pererindod drwy lofnodi Ffolder Cofnod y Pererin. Mae manylion am hyn ar y dudalen Newyddion (29.06.16)
Gwneud rhodd drwy Paypal
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â ni.
Taith y Pererin
Ebost: cliciwch yma
Dr.Rowan Williams,
Y Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Williams o Ystumllwynarth. Cyn Archesgob Caergaint.
North Wales Pilgrim's Way Guide (2019)
North Wales Pilgrim's Way between Hollywell and Rowen (2022)
North Wales Pilgrim's Way between Rowen and Aberdaron (2022)
© 2024 TAITH Y PERERIN Gogledd Cymru ~ GWEFAN GAN DELWEDD. CEDWIR BOB HAWL.